BooksDirect

Description - Cymraeg yn y Gweithle by Rhiannon Heledd Williams

Yn sgil y Mesur Iaith a’r Safonau a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru, mae mwy o alw nag erioed am weithwyr proffesiynol dwyieithog yng Nghymru heddiw. Dyma lawlyfr ymarferol sydd â ffocws penodol ar ddatblygu sgiliau iaith yn y gweithle, er mwyn ymestyn sgiliau iaith yn bennaf mewn cyd-destunau penodol a dulliau ymarferol. Mae’r gyfrol yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n bwriadu defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith neu’n dymuno magu hyder wrth gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig. Ceir yma gyfarwyddiadau, enghreifftiau a phatrymau i’w hefelychu, tasgau ac ymarferion a phwyntiau trafod. Nid cyfrol ramadeg yw hon, ond llawlyfr hylaw sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio’r iaith mewn cyd-destun proffesiynol – canllaw defnyddiol ar gyfer gweithlu cyfoes yr 21ain ganrif.
 I ddarllen erthygl Rhiannon Heledd Williams am ei chyfrol, ewch at wefan Parallel.Cymru
 
 

Buy Cymraeg yn y Gweithle by Rhiannon Heledd Williams from Australia's Online Independent Bookstore, BooksDirect.

Other Editions - Cymraeg yn y Gweithle by Rhiannon Heledd Williams

A Preview for this title is currently not available.