BooksDirect

Description - Meddylfryd ar gyfer TGAU: 40 gweithgaredd i drawsffurfio ymroddiad, cymhelliant a chynhyrchedd disgyblion by Steve Oakes

Ar adeg pan mae dysgu TGAU yn gallu teimlo fel cylch diddiwedd o wersi wedi'u gor-reoli ac ymyriadau funud olaf, mae Steve a Martin - awduron o fri Meddylfryd ar gyfer Safon Uwch- yn awgrymu ymagwedd wahanol, wedi'i ategu gan eu model VESPA o sgiliau bywyd hanfodol: gweledigaeth, ymdrech, systemau, ymarfer ac agwedd.Mae'r pum nodwedd an-wybyddol hyn yn rhagfynegydd gwell o lwyddiant academaidd na sgiliau gwybyddol, ac yn Meddylfryd TGAU mae Steve a Martin yn cymryd y model syml hwn fel eu man cychwyn ac yn cyflwyno rhaglen o weithgareddau, adnoddau a strategaethau sy'n hawdd ei defnyddio a fydd yn helpu myfyrwyr i oresgyn rhwystrau, adeiladu gwydnwch, rheoli eu llwyth gwaith, a chyflawni eu potensial yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.Mae'r pedwardeg gweithgaredd yn y llyfr hwn, tra'u bod wedi'u categoreiddio'n thematig o dan ymbarel VESPA, wedi cael eu trefnu'n gronolegol fesul mis ar draws y flwyddyn academaidd er mwyn helpu myfyrwyr i lywio'r daith sydd o'u blaenau. Gellir cyflwyno pob gweithgaredd un i un, i grwp tiwtor neu i garfan gyfan. Mae'r gweithgareddau wedi'u gynllunio i gymryd pymtheg i ugain munud i'w gwblhau, ac mae wedi'i ysgrifennu gyda disgyblion mewn golwg. Yn ogystal, mae'r awduron hefyd yn egluro'r ymchwil a'r theori sylfaenol gan gynnwys gwaith arloesol Angela Duckworth, Dr Steve Bull a Carol Dweck - yn fanwl o fewn y cyflwyniad i bob adran.Gyda dros drideg mlynedd o brofiad dysgu a hyfforddi rhwng yr awduron, mae'r llawlyfr hanfodol yma hefyd yn awgrymu cwestiynau ac ymyriadau hyfforddi allweddol i'w defnyddio gyda disgyblion. Mae'n cynnwys arweiniad arbenigol ar sut y gall ysgolion sefydlu a gweithredu'r dull VESPA o fewn eu gwaith.

Buy Meddylfryd ar gyfer TGAU: 40 gweithgaredd i drawsffurfio ymroddiad, cymhelliant a chynhyrchedd disgyblion by Steve Oakes from Australia's Online Independent Bookstore, BooksDirect.

A Preview for this title is currently not available.